Yn enwedig i'r 6ed dosbarth! Os ydych byth yn ansicr a oes angen defnyddio'r 'subjonctif' neu ai dim ond sticio at y presennol yn eich gwaith, gallwch wirio gan ddefnyddio'r 'subjunctivator' ar safle about.french. Dyma'r ddolen => Y 'subjunctivator'
Comment conjuguer un verbe!
Ici, on vous enseigne comment conjuguer un verbe -er regulier...dans le métro à Paris! (Yma, maent yn eich dysgu sut i redeg berf -er rheolaidd...ar linell metro ym Mharis!)
Exercices de grammaire
Dyma ddolen at lwyth o ymarferion defnyddiol iawn! Cliciwch ar y dolenni glas i'r dde o logo'r Manchester Metropolitain University. Mae'r ddolen 'Grammar games' yn arbennig yn ddefnyddiol, sy'n gadael i chi ddewis y math o agwedd gramadegol hoffech adolygu/ymarfer, ac yna'r math o ymarfer hoffech wneud gyda fe. Allez-y!
Dyma ddolen at gyfres o bodcastiau sy'n cyfuno berfau Ffrangeg gyda thechnegau ymlacio. Mae 20 podcast gwahanol gallwch lawrlwytho (yn para rhyw 15 munud yr un), sy'n cynnwys berfau rheolaidd (regular) ac afreolaidd (irregular) a'r amserau presennol, gorffennol a dyfodol. Y syniad yma yw eich bod yn fwy tebygol o gofio os ydych wedi ymlacio - rhowch dro arni!
Dyma fideo sy'n rhoi gwers reit drylwyr ar ansoddeiriau Ffrangeg, gyda rhan estynedig ar ansoddeiriau afreolaidd (y rhai sydd ddim yn dilyn y patrwm arferol o ychwanegu -e ar ddiwedd y ffurf gwrywaidd). (Sylwer - Mae'r dyn sy'n siarad yn Ffrancwr ac mae ei acen yn achosi iddo ynganu'r gair 'noun' fel 'noon'!)
Dyma reol syml i'ch cynorthwyo i wybod os yw'r ansoddair yn dod o flaen yr enw neu beidio. Os yw'n dilyn y rheol BAGS, rhaid ei roi o flaen yr enw a ddisgrifir: Beauty (e.e. beau/belle, joli/jolie) = une belle fille (merch hardd), un joli jardin (gardd bert) Age (e.e. jeune, vieux/vieille) = un jeune homme (dyn ifanc), une vieille voiture (hen gar) Good & Bad (e.e. bon/bonne, méchant/méchante) = une bonne émission (rhaglen dda), un méchant enfant (plentyn drwg) Size (e.e. grand/grande, petit/petite) = une grande maison (tŷ mawr), un petit chien (ci bach)
Mae ansoddeiriau sydd ddim yn ffitio'r rheol yma (sy'n golygu'r rhan fwyaf o ansoddeiriau Ffrangeg) bron bob tro yn mynd ar ôl yr enw maent yn disgrifio:
e.e. une voiture rouge(car coch), une fille intélligente(merch glyfar), un chien paresseux(ci diog)...
Safle 'Tex's French Grammar'
Dyma safle ymarferion gramadegol Prifysgol Austin (Texas) - mae'n gynhwysfawr iawn, ac yn wych ar gyfer disgyblion hŷn yn arbennig. Maent yn esbonio'r pwyntiau, ac yn cynnig esiamplau mewn ffordd digri, cyn cynnig cyfle i chi wneud ymarferion rhyngweithiol i brofi eich dealltwriaeth. Safle sy'n wir werth ymweld â hi!
Adolygu eich gramadeg gyda safle 'French Revision'
Safle ar gyfer disgyblion TGAU a Lefel A yn bennaf sy'n eich cynorthwyo i astudio ac adolygu eich gramadeg. Cliciwch ar y tab 'Grammar' ar hyd top y sgrin, ac yna dewiswch 'Intermediate' (ar gyfer dosbarthiadau TGAU) neu 'Advanced' (ar gyfer dosbarthiadau Lefel A), neu gallwch ddewis 'Tenses & Moods' os hoffech adolygu eich berfau yn benodol.
Dyma ddolen i safle sy'n gallu eich cynorthwyo gyda'ch berfau. Os hoffech wirio rhediad eich berfau, teipiwch y ferfenw i mewn i'r blwch chwilio ac yna gallwch weld y ferf hynny ym mhob amser - presennol (present), amherffaith (imperfect), dyfodol (future), perffaith (perfect), amodol (conditional) a'r modd dibynnol (subjunctive).
Dyma ddolen i safle sy'n eich cynorthwyo i wirio eich gwaith cyn ei gwblhau. Gallwch gopio a phastio eich darn o waith i mewn i'r blwch ac yna clicio ar 'Check Text'. Mi fydd yna yn uwcholeuo pethau sydd angen i chi wirio neu gywiro o ran gramadeg a sillafu. Os rhowch eich llygoden dros y gair sydd wedi ei farcio, mi welwch esboniad neu reswm yn ymddangos dros y ffaith bod y gair wedi ei uwcholeuo ac yn cynnig syniad i chi ar sut i'w gywiro - cymerwch ofal fodd bynnag, gan bod yr esiamplau sy'n cael eu cynnig fel cywiriadau ddim bob amser yn matsio'ch testun chi! Mae dal angen i chi feddwl dros eich hunan, cysidro'r awgrymiad a phenderfynu sut i gywiro'ch gwaith!
Y 'subjunctivator'!
Yn enwedig i'r 6ed dosbarth! Os ydych byth yn ansicr a oes angen defnyddio'r 'subjonctif' neu ai dim ond sticio at y presennol yn eich gwaith, gallwch wirio gan ddefnyddio'r 'subjunctivator' ar safle about.french. Dyma'r ddolen => Y 'subjunctivator'Comment conjuguer un verbe!
Ici, on vous enseigne comment conjuguer un verbe -er regulier...dans le métro à Paris!(Yma, maent yn eich dysgu sut i redeg berf -er rheolaidd...ar linell metro ym Mharis!)
Exercices de grammaire
Dyma ddolen at lwyth o ymarferion defnyddiol iawn! Cliciwch ar y dolenni glas i'r dde o logo'r Manchester Metropolitain University. Mae'r ddolen 'Grammar games' yn arbennig yn ddefnyddiol, sy'n gadael i chi ddewis y math o agwedd gramadegol hoffech adolygu/ymarfer, ac yna'r math o ymarfer hoffech wneud gyda fe. Allez-y!Real French Plus
Podcastiau 'VERBcast'
Dyma ddolen at gyfres o bodcastiau sy'n cyfuno berfau Ffrangeg gyda thechnegau ymlacio. Mae 20 podcast gwahanol gallwch lawrlwytho (yn para rhyw 15 munud yr un), sy'n cynnwys berfau rheolaidd (regular) ac afreolaidd (irregular) a'r amserau presennol, gorffennol a dyfodol. Y syniad yma yw eich bod yn fwy tebygol o gofio os ydych wedi ymlacio - rhowch dro arni!The VERBCast
Les adjectifs - Ansoddeiriau
Dyma fideo sy'n rhoi gwers reit drylwyr ar ansoddeiriau Ffrangeg, gyda rhan estynedig ar ansoddeiriau afreolaidd (y rhai sydd ddim yn dilyn y patrwm arferol o ychwanegu -e ar ddiwedd y ffurf gwrywaidd). (Sylwer - Mae'r dyn sy'n siarad yn Ffrancwr ac mae ei acen yn achosi iddo ynganu'r gair 'noun' fel 'noon'!)Dyma reol syml i'ch cynorthwyo i wybod os yw'r ansoddair yn dod o flaen yr enw neu beidio. Os yw'n dilyn y rheol BAGS, rhaid ei roi o flaen yr enw a ddisgrifir:
Beauty (e.e. beau/belle, joli/jolie) = une belle fille (merch hardd), un joli jardin (gardd bert)
Age (e.e. jeune, vieux/vieille) = un jeune homme (dyn ifanc), une vieille voiture (hen gar)
Good & Bad (e.e. bon/bonne, méchant/méchante) = une bonne émission (rhaglen dda), un méchant enfant (plentyn drwg)
Size (e.e. grand/grande, petit/petite) = une grande maison (tŷ mawr), un petit chien (ci bach)
Mae ansoddeiriau sydd ddim yn ffitio'r rheol yma (sy'n golygu'r rhan fwyaf o ansoddeiriau Ffrangeg) bron bob tro yn mynd ar ôl yr enw maent yn disgrifio:
e.e. une voiture rouge (car coch), une fille intélligente (merch glyfar), un chien paresseux (ci diog)...
Safle 'Tex's French Grammar'
Dyma safle ymarferion gramadegol Prifysgol Austin (Texas) - mae'n gynhwysfawr iawn, ac yn wych ar gyfer disgyblion hŷn yn arbennig. Maent yn esbonio'r pwyntiau, ac yn cynnig esiamplau mewn ffordd digri, cyn cynnig cyfle i chi wneud ymarferion rhyngweithiol i brofi eich dealltwriaeth. Safle sy'n wir werth ymweld â hi!Tex's French Grammar
Adolygu eich gramadeg gyda safle 'French Revision'
Safle ar gyfer disgyblion TGAU a Lefel A yn bennaf sy'n eich cynorthwyo i astudio ac adolygu eich gramadeg. Cliciwch ar y tab 'Grammar' ar hyd top y sgrin, ac yna dewiswch 'Intermediate' (ar gyfer dosbarthiadau TGAU) neu 'Advanced' (ar gyfer dosbarthiadau Lefel A), neu gallwch ddewis 'Tenses & Moods' os hoffech adolygu eich berfau yn benodol.French Revision
Conjugaison de verbes
Dyma ddolen i safle sy'n gallu eich cynorthwyo gyda'ch berfau. Os hoffech wirio rhediad eich berfau, teipiwch y ferfenw i mewn i'r blwch chwilio ac yna gallwch weld y ferf hynny ym mhob amser - presennol (present), amherffaith (imperfect), dyfodol (future), perffaith (perfect), amodol (conditional) a'r modd dibynnol (subjunctive).Conjugue-moi!
La négation
Dyma fideo sy'n dangos sut i ddefnyddio'r ffurf negyddol yn Ffrangeg.Y et EN
Fideo yn esbonio sut a phryd i ddefnyddio'r ddwy air defnyddiol yma.Le passé composé (y gorffennol)
Dyma fideo sy'n dangos sut i ffurfio'r amser perffaith ar gyfer siarad am y gorffennol yn Ffrangeg.Ymarferion Gramadeg 'GCSE Bitesize'
Dyma ddolen i dudalen Gramadeg GCSE Bitesize. Dewiswch eich agwedd gramadegol, ac adolygwch y wybodaeth berthnasol.GCSE Bitesize Ffrangeg
Gwiriwr gramadeg a sillafu - BonPatron.com
Dyma ddolen i safle sy'n eich cynorthwyo i wirio eich gwaith cyn ei gwblhau. Gallwch gopio a phastio eich darn o waith i mewn i'r blwch ac yna clicio ar 'Check Text'. Mi fydd yna yn uwcholeuo pethau sydd angen i chi wirio neu gywiro o ran gramadeg a sillafu. Os rhowch eich llygoden dros y gair sydd wedi ei farcio, mi welwch esboniad neu reswm yn ymddangos dros y ffaith bod y gair wedi ei uwcholeuo ac yn cynnig syniad i chi ar sut i'w gywiro - cymerwch ofal fodd bynnag, gan bod yr esiamplau sy'n cael eu cynnig fel cywiriadau ddim bob amser yn matsio'ch testun chi! Mae dal angen i chi feddwl dros eich hunan, cysidro'r awgrymiad a phenderfynu sut i gywiro'ch gwaith!Bon Patron